

|
|
|
|
|
Siop sborion gymunedol wedi'i lleoli ym Mae Cinmel yw Taflu a Chario, a ddosbartha wastraff busnesau cynhyrchu sydd yn addas i chwarae plant a gweithgareddau celfi a chrefftau.
Dyma'r mathau o ddefnydd sydd ar gael:
Llestri gwydr, ffabrig, carden, papur, carden liw aur, teganau, cadachau gwlyb, gwellt, paent, gwlân, llyfrau, sbwng a llawer mwy.
Hefyd yn y siop sborion y mae siop celfi a chrefftau isel ei phrisiau a wertha ystod eang o bethau cyflenwol at brosiectau celfi a chrefftau megis pefriad, glud PVA, paentiau, papur, coesynnau, pompomau ayb.
Mae castell sboncio gan Daflu a Chario sydd ar gael i'w logi am bris cystadleuol.
Mae angen ymaelodi i gael mynediad i'r siop sborion, naill ai yn Aelod Unigol neu yn Sefydliad.
Mae Taflu a Chario yn wastad yn ymofyn gwastraff addas o fusnesau sydd yn awyddus i ddangos ymwybyddiaeth amgylcheddol.

