

|
|
|
|
|
Agorodd Croes i'r Graen ym mis Mai 2004 a lleolir yn ein prif swyddfa yng Nghyffordd Llandudno.
Mae'r fenter yn casglu pren gwastraff o'r diwydiant adeiladu ar draws gogledd Cymru ac ar ôl ei baratoi rywfaint, dosbartha'r pren a gasglwyd i'r gymuned drwy ei hallfa pren adenilledig isel ei phrisiau.
Dyma enghreifftiau o'r pethau sydd ar gael yn yr allfa fanwerthu:
- pren braslifiad ac wedi'i blaenio
- drysau a gatiau
- bwrdd sgyrtin ac architrafau
- wynebau gweithio a desgiau
- bwrdd sglodion a chaledfyrddau
- pren caled
- estyll a thrawstiau
- darnau addurniadol a gwladaidd
- coed tân a chynnud
- dodrefn pren wedi'u hailgylchu a dodrefn i'r ardd
Am fwy o fanylion, cysylltwch â ni ar 01492 596734 neu anfonwch e-bost at againstthegrain@crest-cooperative.org.uk.
Mae Croes i'r Graen yn awyddus i gael llofnodion adeiladwyr a chynhyrchwyr gwastraff pren eraill newydd a hoffai waredu eu pren gwastraff mewn modd isel ei gost sydd yn gyfeillgar i'r amgylchedd.
Hefyd, bydd Croes i'r Graen yn casglu eitemau pren a dodrefn o unigolion am ddim ond £15 i 1-4 eitem.

