

|
|
|
|
|
Compostio yw'r ffordd fwyaf effeithiol i ailgylchu gwastraff o'ch gardd a'ch cegin a'i droi'n wrtaith ffrwythlon i'r ardd. Gweithreda Crest wasanaeth gwybodaeth sydd ar gael i bawb yn Sir Conwy a hoffai ddechrau compostio cartref. Er mwyn eich annog i gychwyn arni, gellir trefnu sgyrsiau/arddangosiadau bywiog, yn rhad ac am ddim, ar gyfer cymdeithasau yn y gymuned. I archebu, ffoniwch Crest ar 01492 596783 neu anfonwch e-bost at communityrecycling@crest-cooperative.org.uk.
BINIAU COMPOSTIO
Mae Crest yn gwerthu biniau compostio cartref a wneir yn bwrpasol o bren wedi'i ailgylchu. Mae 3 maint ar gael neu gallwn eu gwneud wrth fesur. I archebu, cysylltwch â ni ar 01492 596783 neu anfon e-bost at communityrecycling@crest-cooperative.org.uk.
CYFLEUSTER ADDYSGOL COMPOSTIO
Mae safle ailgylchu cymunedol (compostio) Crest yn Llandudno yn cynnwys ardal fach compostio a thyfu, wedi'u creu yn arbennig, â mynediad llawn i bobl anabl. Mae'r ardal hon ar gael i ysgolion a grwpiau ieuenctid a hoffai ddysgu mwy am gompost a'r amgylchedd yn gyffredinol.
Am fanylion llawn ynghylch costau a'r cyfleusterau sydd ar gael i ymwelwyr, cysylltwch â Celia Williams ar 01492 596783 neu anfonwch e-bost at communityrecycling@crest-cooperative.org.uk.

