

|
|
|
|
|
Sefydlwyd Ailgylchu Cymunedol a leolir yn Llandudno yn 2001, a darpar ef wasanaeth rheolaidd casglu gwastraff gwyrdd o'r pafin ar gyfer cartrefi yn Sir Conwy, gogledd Cymru.
Prosesir y holl wastraff a gesglir yn ein safle. Troir yn wrtaith, rhoir mewn bagiau a gwerthir yn ôl i'r gymuned.
Ers Chwefror 2005, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd rhad ac am ddim, sydd yn cyd-redeg a'u cynllun Ailgylchu o Ymyl y Palmant.
Ar hyn o bryd, casglwn unwaith y pythefnos yn y trefi a phentrefi ar hyd arfordir gogleddol ardal Conwy - ar hyd cyfanswm o 20 llwybr . Disgwylir y bydd y gwasanaeth yn ymestyn ymhellach i'r de cyn bo hir.
Os hoffech wybodaeth am y cynllun a sut y gallech gymryd rhan ynddo, cysylltwch â ni ar 01492 596783 neu anfonwch e-bost at communityrecycling@crest-cooperative.org.uk.
Fel rhan o'n hymdrech i leihau gwastraff bagiau plastig, rydym yn gwerthu a chymeradwyo bagiau bocs gwydn ac ailddefnyddiadwy. Dylunnir y bagiau yn benodol ar gyfer gwastraff gwyrdd ac y maent o werth rhagorol o'u cymharu â bagiau tafladwy. Am fwy o wybodaeth, a manylion stocwyr lleol bagiau bocs, ffoniwch Crest ar 01492 596783.
Mae gwrtaith ar gael i'w brynu ym magiau o faint 20 litr, 40 litr a 500 litr ac yn nwy radd. I archebu, cysylltwch â ni yn communityrecycling@crest-cooperative.org.uk neu ffoniwch 01492 596783. Gellir prynu gwrtaith hefyd ym Mhlanhigfa Bryn Euryn, Bron-y-Nant, Dinerth Rd., Mochdre, a Barry's of Pensarn, Marine Rd., Pensarn.
Yn ogystal â'n casgliadau rheolaidd, darparwn wasanaeth casglu gwastraff gwyrdd cystadleuol ei bris am feintiau mawr sydd ar gael ledled Sir Conwy. I gofrestru am gasgliad arbennig, cysylltwch â communityrecycling@crest-cooperative.org.uk neu ffoniwch 01492 596783.
Mae Crest Co-Operative yn cyflogi swyddog Amgylchedd Cymunedol i hyrwyddo compostio cartref ledled Sir Conwy.
