

|
|
|
|
|
Sefydlwyd Crest Co-Operative yn 1998 yn Rhyl, gogledd Cymru, i ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddi gwir eu hangen yng nghymunedau lleol difreintiedig.
Ers hynny y mae'r cwmni wedi tyfu yn un o'r cwmnïau sector cymdeithasol mwyaf blaenllaw yng Nghymru, yn cyflogi mwy na 25 staff parhaol ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer mwy na 150 o bobl y flwyddyn.
Heddiw, gweithreda Crest Co-Operative o dri safle ar hyd arfordir y gogledd, a lleolir ei brif swyddfa yng Nghyffordd Llandudno, Conwy.
